Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9 Mai 2023
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Ap y GIG
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
(30 munud)
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gynllun Cyflawni Cymru o Blaid Pobl Hyn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio
(30 munud)
6 Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
(5 munud)
NDM8253 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 1-32;
b) Atodlen 1;
c) Adran 33;
d) Adrannau 35-41;
e) Adran 34;
f) Adrannau 43-45;
g) Adran 42;
h) Adrannau 46-52;
i) Atodlen 2;
j) Atodlen 3;
k) Adrannau 53-54;
l) Teitl Hir.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 7 ac 8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 mins)
7 Egwyddorion Cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
NDM8255 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Gosodwyd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 13 Chwefror 2023.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) gerbron y Senedd ar 28/04/2023.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
NDM8254 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 10 Mai 2023